|
Recommendations
Nia Parry
Cyflwynydd/
Presenter
|
Nid yn unig oedd y sesiynau yn ddiddorol, yn ymlaciedig ac yn lot fawr o hwyl. Dw i'n teimlo eu bod wedi talu ar eu canfed o safbwynt fy ngwaith trosleisio. Cyn mynd at Rhian doeddwn i ddim yn ymwybodol o natur fy llais o gwbl, doeddwn i erioed wedi ystyried o le oedd o'n dod na sut gallwn i ei reoli. Erbyn hyn, a diolch i Rhian, dw i'n teimlo fy mod i wedi cychwyn ar y daith o fedru defnyddio fy llais yn llawer mwy effeithiol. Drwy ddechrau meistroli ar y dechneg o siarad, mae hefyd wedi datgloi drysau sy'n ymwneud â fy ystum ac osgo. Drwy sesiynau godidog Rhian dw i wedi dysgu ei bod hi'n bosib i mi fod yn feistr ar fy llais, sydd yn y pen draw yn rhoi mwy o hyder i mi wrth ddefnyddio fy llais o ddydd i ddydd ac yn fy ngwaith.
... Before meeting Rhian I was totally unaware of my vocal potential. I am now on the path to using my voice and body language more effectively ... which has enhanced my self-confidence.
|
Alex Jones
Cyflwynydd/
Presenter
|
Roedd gwneud ymarferion llais gyda Rhian yn brofiad wnes i fwynhau yn fawr. Mae Rhian yn athrawes amyneddgar, sydd yn gallu gwneud i berson ymlacio o fewn eiliadau. Fy mhrif broblem, cyn mynd at Rhian oedd fod goslef fy llais braidd yn uchel, ond gyda'n gilydd, dros gyfnod o amser, fy wnaeth hi lwyddo i ddysgu fi sut oedd rheoli'r broblem. Hyd yn oed ar ol gorffen y cwrs o wersi, roedd yr ymarferion yn ddigon syml fel bo fi'n gallu ymarfer ar fy mhen fy hun, ac yn fwy pwysig na hynny, roedd yr ymarferion yn gofiadawy, chwech mlynedd yn ddiweddarach, a dwi dal yn eu defnyddio o bryd i'w gilydd.
I enjoyed my sessions immensely ... before meeting Rhian my voice was rather high pitched ... but through a course of simple exercises (which I'm still doing), I learn't greater vocal control.
|
Lisa Gwilym
Cyflwynydd/
Presenter
|
Ges i'r pleser o weithio gyda Rhian Morgan yn 2001, ar ddechrau fy ngyrfa fel cyflwynydd, pan yn rhan o dim Planed plant yn S4C.
Erbyn hyn 'dwi'n aelod o griw C2 ar radio Cymru ar llais felly yn hynod bwysig. Rwy'n hynod o ddilochgar i Rhian am y sesiynau difyr a hwyliog ac am ddysgu sgiliau gwerthfawr iawn imi.
I met Rhian in 2001 ... and was concerned as a radio presenter about the tone and quality of my voice. The sessions were interesting and fun and the skills I learn't extremely valuable.
|
Gethin Jones
Cyflwynydd/
Presenter
|
Roedd y sesiynau llais gefais i gyda Rhian yn llawer o hwyl ac yn werthfawr iawn imi. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod gan fy llais gymaint o botensial! Fe ddysgais ymlacio a chanoli, sydd yn arf defnyddiol iawn, pan yn cyflwyno o dan bwysau, ac fe ddysgais ymestyn cyhyrau'r ceg er mwyn ynganu yn glir. Rwy'n dal i wneud yr ymarferion hyd heddiw, ac yn dysgu ambell i 'tongue-twister' Cymraeg i'm cyd-gyflwynwyr ar Blue Peter!
These light hearted sessions taught me how to be relaxed and 'centred' under pressure ... I learn't to speak more clearly and still practice my 'tongue-twisters' before going on set!
|
|
|